Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (251) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 3, 5 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch newid yn yr hinsawdd - tynnwyd yn ôl
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar adolygiad Donaldson o'r cwricwlwm a threfniadau asesu: y camau nesaf
Dechreuodd yr eitem am 14.16
4 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
5 Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 30 mewn perthynas â hysbysu Biliau Senedd y DU
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM5707 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2015; a
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 30, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM5709 David Rees (Aberafan)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2015.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015.
The motion was agreed in accordance with Standing Order 12.36.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros;
2. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y sector preifat i greu swyddi a ffyniant.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
35 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015 a chynnal ei statws credyd AAA.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
12 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod mesurau llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
12 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2, ar ôl '2014' ychwanegu ', er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
9 |
0 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth incwm i £10,500 yn ei chael ar economi Cymru, gan arwain at doriad o £800 yn nhreth incwm 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
9 |
23 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru er mwyn adeiladu economi cryfach a thecach i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
32 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 3, ar ôl 'ffyniant' ychwanegu 'a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
12 |
9 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015 a chynnal ei statws credyd AAA.
2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros;
3. Yn gresynu at y ffaith bod mesurau llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny.
4. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014, er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith;
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y sector preifat i greu swyddi a ffyniant a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
12 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
8 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu na ddylai lefel Cymru o hunanlywodraeth fod yn is nag unrhyw ran arall o'r DU;
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni cydraddoldeb o ran pwerau a pharch i Gymru yn ystod ei daliadaeth;
3. Yn galw am gydraddoldeb llawn o ran pwerau a chyllid ar gyfer Cymru a'r Alban;
4. Yn galw am drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfansoddiad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Fil ymreolaeth newydd;
5. Yn nodi y dylai'r Bil ymreolaeth gynnwys datganoli'r cyfrifoldeb dros adnoddau naturiol Cymru yn llawn;
6. Yn galw ymhellach am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a datganoli plismona, carchardai, llysoedd a chyfiawnder troseddol; a
7. Yn credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y grym i gefnogi'r rhai sydd angen diogelwch cymdeithasol drwy bwerau cynyddol mewn perthynas â budd-daliadau lles fel yr argymhellodd y Comisiwn Smith i'r Alban.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
35 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r camau sylweddol a gymerwyd ymlaen mewn perthynas â'r setliad datganoli i Gymru ers 2010, gan gynnwys:
a) refferendwm ar bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b) sefydlu Comisiwn Silk;
c) cyflwyno Deddf Cymru 2014, sydd wedi datganoli treth stamp, trethi busnes a threth tirlenwi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a darparu ar gyfer refferendwm ar a ddylid datganoli elfen o dreth incwm.
2. Yn croesawu'r cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi sy'n cynnig:
a) datganoli'r cyfrifoldeb dros bob caniatâd cynllunio i ddatblygiadau prosiectau ynni hyd at 350 MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru;
b) datganoli terfynau cyflymder, rheoliadau bws a thacsi, a swyddogaethau'r Comisiynydd Traffig;
c) cyflwyno model cadw pwerau;
d) datganoli datblygu porthladdoedd;
e) datganoli pwerau yn ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol;
f) datganoli cymhwysedd dros ddyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig; a
g) datganoli trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru
3. Yn credu bod yn rhaid inni fynd ymhellach i sicrhau ymreolaeth i Gymru ac yn galw am:
a) datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 1 sy'n weddill ar bwerau ariannol i Gymru;
b) datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 2 sy'n weddill ar bwerau deddfwriaethol i Gymru;
c) datganoli cyllid Network Rail mewn perthynas â rhwydwaith Cymru;
d) datganoli terfynau yfed a gyrru;
e) datganoli'r cyfrifoldeb dros ariannu gwariant cyhoeddus ar S4C i'r Cynulliad;
f) datganoli cyfiawnder ieuenctid, plismona a phwerau cyfiawnder eraill yn y tymor hwy;
g) trosglwyddo pwerau i reoli asedau economaidd Ystâd y Goron;
h) trosglwyddo rheolaeth dros ystod o fuddion ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a phobl anabl;
i) datganoli pwerau i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau cenedlaethol a lleol Cymru;
j) rhoi'r hawl i Lywodraeth Cymru osod ei gwyliau banc ei hun; a
k) rhoi'r pŵer i Gomisiynydd Plant Cymru archwilio materion sy'n effeithio ar blant yng Nghymru ond nad ydynt o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
41 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014, sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru;
2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;
3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau;
4. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o atal rhagor o gydgyfeirio.
5. Yn mynegi siom ynghylch y
diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a argymhellwyd gan
Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a
6. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
18 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)
1. Yn nodi cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014, sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru;
2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;
3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau;
4. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o atal rhagor o gydgyfeirio.
5. Yn mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a
6. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
9 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Pwynt o Drefn
Cododd Mick Antoniw Bwynt o Drefn ynghylch sylw Leanne Wood yn y ddadl flaenorol bod rhywbeth a ddywedodd ef yn ‘gelwydd’. Dyfarnodd y Llywydd fod Leanne Wood wedi esbonio’i sylwadau’n ddigonol ar ôl ei ymryraeth flaenorol, ond y byddai’n darllen y Cofnod ac yn dychwelyd at y mater pe byddai angen.
Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.38
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.43
NDM5708 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):
Cyfeillio - atal unigrwydd
Defnyddio cyfeillio i atal pobl rhag bod yn unig ac yn ynysig.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.07
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2015